Ti Werth y Byd Sali Mali

Paratowch am antur hudolus, liwgar a llawn hwyl gyda Sali Mali a’i ffrindiau! 🌼

Dewch i gamu i fyd arbennig cymeriadau hoffus Mary Vaughan Jones wrth iddyn nhw ddod yn fyw ar lwyfan mewn drama newydd sbon i blant bach a’u teuluoedd.

Gyda cherddoriaeth, caneuon a digonedd o chwerthin, bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn eich tywys ar antur gyffrous, gan ddathlu’r hyn sy’n ein gwneud ni i gyd yn arbennig ac yn unigryw. Oherwydd mae gan bawb eu doniau eu hunain, ac mae gan bawb rywbeth arbennig i’w gynnig!

Dewch i ganu, chwarae a chael eich swyno gan fyd Sali Mali mewn cynhyrchiad llawn dychymyg, cynhesrwydd a hud, yn arddull unigryw Arad Goch.

Ymunwch â ni am antur theatrig arbennig yr haf hwn – a chofiwch, ti werth y byd!

*Cynhyrchiad Cymraeg ond yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd*

I’w gyhoeddi…

3

+

Cynhyrchiad Oed

2–7 oed a’u teuluoedd

Ar Daith

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Mercher 26/05/2027
10:00
13:00

Mwldan, Aberteifi
Iau 27/05/2027
13:00
Gwener 28/05/2027
10:00

Theatr Felinfach
Llun 07/06/2027
13:00
Mawrth 08/06/2027
10:00

Lyric, Caerfyrddin
Mercher 09/06/2027
13:00
Iau 10/06/2027
10:00

Taliesin, Abertawe
Gwener 11/06/2027
13:00

Theatr y Colisëwm, Aberdâr / Theatr Y Parc a’r Dâr, Treorci
Mawrth 15/06/2027
10:00

Theatr Y Parc a’r Dâr, Treorci / Theatr Y Garth, Pentre’r Eglwys
Mercher 16/06/2027
10:00

Theatr Y Garth, Pentre’r Eglwys
Iau 17/06/2027
10:00
13:00
Gwener 18/06/2027
10:00

Hafren, Drenewydd
Mawrth 22/06/2027
10:00

Glan yr Afon, Casnewydd
Mercher 23/06/2027
13:00

Memo, Y Bari
Gwener 25/06/2027
10:00

Pafiliwn, Rhyl
Mawrth 29/06/2027
10:00

Neuadd William Aston, Wrecsam
Mercher 30/06/2027
10:00

Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Iau 01/07/2027
13:00
Gwener 02/07/2027
10:00
13:00

Galeri, Caernarfon
Mawrth 06/07/2027
10:00
13:00
Mercher 07/07/2027
10:00

Pontio, Bangor
Iau 08/07/2027
10:00
13:00
Gwener 09/07/2027
10:00

Manylion tocynnau ar wefannau’r canolfannau – neu e-bostiwch post@aradgoch.org

Cyfarwyddwr

Ffion Wyn Bowen

CAST

I'w gyhoeddi...

I'w gyhoeddi...

I'w gyhoeddi...

I'w gyhoeddi...

Mwy o wybodaeth yn fuan…

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol…