🎠GALW AGORED CASTIOÂ
Ti Werth y Byd, Sali Mali! – Cwmni Theatr Arad Goch
Y Cynhyrchiad…
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn chwilio am berfformwyr talentog i ymuno â chast ein cynhyrchiad newydd sbon, Ti Werth y Byd, Sali Mali!, sioe haf 2027 a fydd yn teithio i theatrau ledled Cymru.
Bydd y cynhyrchiad yn dod â byd hudolus cymeriadau annwyl Mary Vaughan Jones yn fyw ar y llwyfan, mewn sioe liwgar a llawn dychymyg i blant bach a’u teuluoedd, gyda cherddoriaeth, caneuon a llawer o hwyl!
Pwy rydym yn chwilio amdanynt?
Rydym yn chwilio am 2 actor benywaidd / anneuaidd a 2 actor gwrywaidd / anneuaidd i chwarae cymeriadau yn y cynhyrchiad.
- 2 actor benywaidd / anneuaidd : ( Cymeriadau : Sali Mali a Dwmplen Malwoden )Â
- 2 actor gwrywaidd / anneuaidd : (Cymeriadau : Jac y Jwc, Pry Bach Tew, Jac Do )Â
Gofynion y clyweliad:
- Bydd angen canu un cân yn ystod y clyweliad : cân ry’ chi’n mwynhau ei chanu, sydd yn dweud stori ac sy’n dangos amrediad eich llais (bydd gofyn i chi canu a cappella neu dod a trac ar USB, ffeil mp3 gyda chi).Â
- Bydd angen paratoi darn o sgript y byddwn yn rhannu ymlaen llaw.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i berfformwyr fod yn rhan o gynhyrchiad newydd gan Arad Goch, gan ddod â chymeriadau annwyl i gynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru.
Sut i ymgeisio
Anfonwch eich CV a gwybodaeth berthnasol am eich profiad perfformio at post@aradgoch.org .
Dyddiad y clyweliad:Â
- 10 Tachwedd – Caerdydd Â
- 11 Tachwedd – Egin Caerfyrddin (tan 11:30)
- 12 Tachwedd – Arad Goch, Aberystwyth
Cyfnod ymarfer: 26 Ebrill – 26 MaiÂ
Dyddiadau’r daith: 26 Mai – 09 Gorffennaf
Hygyrchedd
Rydym am sicrhau bod y broses glyweld mor hygyrch â phosibl.
Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion hygyrchedd wrth gysylltu â ni, a gallwn drafod unrhyw addasiadau i fformat, amseriad neu ddeunyddiau’r clyweliad er mwyn eich cefnogi.



