Bydd Ti werth y byd, Sali Mali!, cynhyrchiad newydd sbon i blant bach a’u teuluoedd, yn teithio i theatrau ledled Cymru o fis Mai 2027 ymlaen.
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn falch iawn o gyhoeddi ei sioe haf ar gyfer 2027, Ti werth y byd, Sali Mali!, gan ddod â byd hudolus un o gymeriadau mwyaf annwyl llenyddiaeth plant Cymru yn fyw ar y llwyfan.

“Ti werth y byd, Sali Mali!” Paratowch am antur hudolus, liwgar a llawn hwyl gyda Sali Mali a’i ffrindiau, wrth i gymeriadau hoffus Mary Vaughan Jones ddod yn fyw mewn drama newydd sbon i blant bach a’u teuluoedd.

Bydd y cynhyrchiad yn tywys cynulleidfaoedd ar antur gyffrous, gyda cherddoriaeth, caneuon a digonedd o chwerthin. Yn llawn dychymyg, cynhesrwydd a hud, bydd y sioe yn dathlu’r hyn sy’n ein gwneud ni i gyd yn arbennig ac yn unigryw, gan ein hatgoffa bod gan bawb eu doniau eu hunain a rhywbeth arbennig i’w gynnig.

Yn arddull unigryw Cwmni Theatr Arad Goch, bydd Ti werth y byd, Sali Mali! yn cynnig cyfle i blant a’u teuluoedd ganu a chael eu swyno gan fyd Sali Mali, gan rannu profiad theatr byw drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y cynhyrchiad hefyd yn cynnig cyfle arbennig i blant bach weld byd llyfrau Sali Mali yn dod yn fyw ar y llwyfan, gan ddod â’r cymeriadau y maent yn eu hadnabod ac yn eu caru i genhedlaeth newydd o gynulleidfaoedd. Mae’r amseru’n arbennig o gyffrous, gan y bydd llyfr Sali Mali newydd yn cael eu cyhoeddi yn yr haf, gan yr awdur Casia Wiliam, gan roi cyfle i deuluoedd ddarganfod neu ailddarganfod hud y cymeriadau drwy’r llyfrau a’r theatr. Bydd y cyfuniad hwn o straeon newydd a phrofiad theatr byw yn dathlu lle arbennig Sali Mali yn niwylliant a llenyddiaeth plant Cymru.

Dywedodd Ffion Wyn Bowen, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch:
“Mae Sali Mali yn rhan mor arbennig o blentyndod nifer fawr ohonom yng Nghymru, ac mae’n gyffrous iawn cael cyfle i ddod â’r cymeriadau annwyl hyn yn fyw ar y llwyfan unwaith eto. Gyda Ti werth y byd, Sali Mali!, rydyn ni eisiau creu profiad theatr hudolus, llawn dychymyg, cerddoriaeth a hwyl, lle gall plant bach a’u teuluoedd rannu antur gyda’i gilydd.

“Mae’n bwysig i ni barhau i gyflwyno straeon Cymraeg i genhedlaeth newydd, gan greu atgofion arbennig a meithrin cariad at y Gymraeg a’r theatr o oedran cynnar. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fynd â’r sioe ar daith o amgylch Cymru o fis Mai 2027 ymlaen!”
Bydd y sioe yn addas i blant rhwng 2 a 7 oed a’u teuluoedd, gan roi cyfle i’r gynulleidfa ieuengaf fwynhau hud y theatr a darganfod byd Sali Mali ar y llwyfan.

O fis Mai 2027 ymlaen, bydd y cynhyrchiad yn teithio i theatrau a chanolfannau celfyddydol ledled Cymru.
Mae’r daith yn parhau ag ymrwymiad Arad Goch i greu theatr Gymraeg o safon i blant a phobl ifanc, gan ddod â straeon, dychymyg a phrofiadau diwylliannol Cymraeg i deuluoedd ledled Cymru.

X