Bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn teithio i Nepal ar 13 Tachwedd 2026, wrth i’r cwmni barhau i ddatblygu ei gysylltiadau rhyngwladol drwy brosiect cydweithredol cyffrous sy’n dod â diwylliannau Cymru a Nepal ynghyd.
Bydd Ffion Wyn Bowen, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch, a Cêt Haf,Cyfarwyddwr Symud a choreograffydd llawrydd yn cynrychioli Cymru ac Arad Goch yn ystod yr ymweliad, gan gydweithio â’r cwmni Educational Theatre in Nepal ar brosiect o’r enw Mererid’s Aawaaj (Llais Mererid).

Nod y prosiect yw dathlu a chryfhau lleisiau merched a menywod drwy gyfrwng straeon, cerddoriaeth a dawns. Gan ddod â dwy ddiwylliant a dwy iaith ynghyd, bydd y prosiect yn archwilio traddodiadau a straeon Cymru a Nepal, gan ganolbwyntio ar arwresau benywaidd o fewn ein diwylliannau, yn ogystal â chydnabod y cryfder a’r straeon unigryw sydd gan bob merch a menyw i’w rhannu.

Bydd y cydweithio yn cynnwys artistiaid creadigol o Gymru a Nepal yn arwain gweithdai drama, cerddoriaeth a dawns gyda grwpiau amrywiol o ferched, menywod, plant a phobl ifanc yn Kathmandu. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i rannu eu profiadau, eu straeon a’u syniadau, gan gyfrannu at greu darn newydd o theatr a fydd yn cyfuno elfennau o ddiwylliannau Cymreig a Nepalaidd. Bydd y gwaith yn arwain at berfformiadau yn Kathmandu.

Mae’r bartneriaeth rhwng Arad Goch ac Educational Theatre in Nepal yn adeiladu ar gysylltiad sydd wedi bodoli ers 2019, pan ddaeth Sunaina Panthy, Cyfarwyddwr Artistig Educational Theatre in Nepal, i Aberystwyth fel intern i gynorthwyo gyda Gŵyl Agor Drysau, gŵyl ryngwladol Cymru ar gyfer theatr i gynulleidfaoedd ifanc. Ers hynny, mae’r ddau gwmni wedi cadw mewn cysylltiad ac wedi bod yn awyddus i ddod o hyd i gyfle i gydweithio.
Mae’r prosiect yn gyfle gwerthfawr i rannu arferion creadigol, dysgu oddi wrth ein gilydd a datblygu dulliau newydd o ddefnyddio theatr fel arf i rymuso unigolion a chymunedau. Mae’r ddau gwmni yn rhannu ymrwymiad i greu theatr gyda phlant a phobl ifanc drwy gyfrwng eu hieithoedd a’u diwylliannau eu hunain.

Yn ogystal â’r gwaith creadigol, bydd Ffion Wyn Bowen yn cyfrannu at ddigwyddiad rhwydweithio diwydiannau creadigol a diwylliannol For CCI, a drefnir gan y British Council yn Kathmandu ar 17 Tachwedd. Bydd Ffion yn cyflwyno astudiaeth achos ar bobl ifanc a’r diwydiannau creadigol, gan rannu profiad Arad Goch o ddatblygu Gŵyl Agor Drysau a’r cyfleoedd y mae’r ŵyl yn eu cynnig i bobl ifanc ac artistiaid.

Dywedodd Ffion Wyn Bowen, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch:
“Mae’n gyffrous iawn cael cyfle i ddod â diwylliannau Cymru a Nepal ynghyd trwy brosiect creadigol. Mae straeon, cerddoriaeth a theatr yn gallu croesi ffiniau a chreu cysylltiadau rhwng pobl, hyd yn oed pan fo ein hieithoedd a’n profiadau yn wahanol. Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein profiadau, dysgu gan ein partneriaid yn Nepal a chreu rhywbeth arbennig gyda’r cymunedau lleol. Mae’n bwysig hefyd ein bod yn gallu dathlu lleisiau merched a menywod a rhoi cyfle iddynt gael eu clywed.”

Ariannwyd y prosiect drwy raglen Connections Through Culture y British Council, sy’n cefnogi cydweithio rhyngwladol a chyfnewid creadigol rhwng y DU a gwledydd eraill.

Mae Arad Goch yn falch o barhau i gynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol, gan rannu creadigrwydd, iaith a diwylliant Cymru wrth ddatblygu partneriaethau newydd a chynaliadwy ledled y byd.

 

X