Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth Jeremy Turner, sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig cyntaf Cwmni Theatr Arad Goch, a fu farw ar ôl byw’n gadarnhaol â chanser am beth amser ac yn dilyn brwydr hir a chaled.
Sefydlodd Jeremy Gwmni Theatr Arad Goch yn 1989, a bu’n arwain y cwmni am 35 mlynedd hyd ei ymddeoliad yn 2024. Dros fwy na thri degawd a hanner, bu’n gyfrifol am greu ac arwain cynyrchiadau theatr i blant a phobl ifanc ledled Cymru, gan chwarae rhan allweddol yn natblygiad theatr i gynulleidfaoedd ifanc yng Nghymru.
Roedd ei weledigaeth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Gymru. Sefydlodd hefyd Agor Drysau, Gŵyl Theatr Ryngwladol Cymru ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc, gan greu cyfleoedd i gwmnïau ac artistiaid o Gymru gysylltu â’r byd a sicrhau bod gwaith theatr Cymreig yn cael ei weld, ei rannu a’i barchu’n rhyngwladol.
Roedd Jeremy yn angerddol dros theatr, pobl ifanc, yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Fel un a ddysgodd y Gymraeg yn yr ysgol, roedd ganddo ymroddiad arbennig i’r iaith a’i lle ym mywyd diwylliannol Cymru. Roedd hefyd yn adnabyddus am ei farn ddi-flewyn-ar-dafod, ei greadigrwydd hael a’i ymrwymiad i feithrin talent a rhoi cyfleoedd i berfformwyr o bob oedran.
Hyd yn oed yn ystod cyfnodau anoddaf ei salwch, ni wnaeth angerdd Jeremy dros Arad Goch bylu. Parhaodd i weithio ar archif y cwmni, gan gwblhau’r gwaith a sicrhau bod yr archif yn cael ei throsglwyddo i’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd yn waith a oedd yn amlwg yn agos iawn at ei galon, ac roedd ei benderfyniad i’w gwblhau yn adlewyrchu ei ymroddiad diwyro i’r cwmni, ei hanes a’i waddol.
Dywedodd Nia Wyn Evans, Cyfarwyddwr Busnes Cwmni Theatr Arad Goch, ar ran y cwmni:
“Cefais y fraint o gydweithio â Jeremy am dros 20 mlynedd, ac roedd ei frwdfrydedd dros theatr i blant a phobl ifanc yn heintus. Nid yn unig y mae ei waith wedi gwefreiddio cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt dros y degawdau diwethaf, ond roedd ei weledigaeth gref yn un o’r prif resymau dros lwyddiant y cwmni.
“Bydd y byd theatr yn dlotach yn ei absenoldeb, ond mae’r gwaddol y mae Jeremy wedi’i adael yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Mae ein meddyliau gyda Mari, Tomi, Megan a’r teulu cyfan heddiw.”
Dywedodd Sara Gibson, Cadeirydd Bwrdd Arad Goch:
“Mae colli Jeremy yn golled aruthrol. Cwrddais ag ef am y tro cyntaf bron i 30 mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn gweithio gyda Theatr Gorllewin Morgannwg, Theatr na nÓg erbyn heddiw, ac ers hynny rwyf wedi edmygu ei weledigaeth, ei angerdd a’i ymroddiad diwyro i theatr, i bobl ifanc, ac yn anad dim, i’r iaith Gymraeg.
“Fel sylfaenydd y cwmni a’i Gyfarwyddwr Artistig am gynifer o flynyddoedd, roedd Jeremy yn greiddiol i bopeth y mae Arad Goch wedi’i gyflawni. Mae’n gadael gwaddol gwirioneddol arbennig, a bydd ei ddylanwad i’w deimlo yng ngwaith y cwmni ac ym mywydau’r bobl niferus y mae wedi’u hysbrydoli am flynyddoedd i ddod.
“Ond heddiw, yn fwy na dim, mae ein meddyliau gyda’i deulu, sydd wedi bod yn rhan mor annatod o fywyd a chalon y cwmni ochr yn ochr ag ef.”
Dywedodd Ffion Wyn Bowen, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch:
“Mae’n anodd cael y geiriau a fyddai’n cyfleu maint cyfraniad Jeremy i’r sector theatr i gynulleidfaoedd ifanc yng Nghymru, yn Gymraeg a thu hwnt.
“Bu Jeremy yn aelod o fwrdd ASSITEJ UK, sef y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Theatr i Blant a Chynulleidfaoedd Ifanc, rhwng 1994 a 2014, ac yn aelod o Bwyllgor Gweithredol Rhyngwladol ASSITEJ rhwng 2002 a 2008. Roedd ei enw da a’i ddylanwad ar y sector yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Gymru, gan gael ei gydnabod a’i barchu’n rhyngwladol.
“Yn bersonol, des i i gysylltiad â Jeremy am y tro cyntaf pan oeddwn yn fy arddegau, mewn gweithdy theatr yn yr ysgol uwchradd yn dilyn perfformiad gan Theatr Crwban. Fe daniodd hynny fy niddordeb mewn perfformio a chodi fy ymwybyddiaeth o theatr i gynulleidfaoedd ifanc.
“Mae fy nyled iddo yn fawr am y cyfleoedd, yr arweiniad, yr angerdd a’r gefnogaeth a gefais ganddo dros y 30 mlynedd diwethaf. Rwy’n ystyried ei bod yn gyfrifoldeb ac yn fraint aruthrol cael parhau â’r gwaith anhygoel a gyflawnodd Jeremy gyda Chwmni Theatr Arad Goch.”
Mae teulu Jeremy yn ei gofio fel gŵr, tad a thadcu cariadus ac egnïol, ac maent yn dymuno diolch i bawb a fu’n gofalu amdano ac yn cefnogi’r teulu drwy gydol y cyfnod hwn.
Mae Arad Goch yn estyn ei gydymdeimlad dwysaf â Mari, Tomi, Megan a’r teulu cyfan. Bydd colled fawr ar ei ôl, ond bydd ei weledigaeth, ei angerdd a’i waddol yn parhau i fod yn rhan annatod o Arad Goch ac o theatr i blant a phobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.
Diolch Jeremy



