Mae 6X1 yn gynllun sy’n gwahodd artistiaid llaw-rydd i ddatblygu syniadau ar gyfer cynyrchiadau un-person newydd, mewn unrhyw gyfrwng, i blant, teuluoedd neu bobl ifanc.

Rydym ni’n falch o groesawu ein artist diweddaraf, Sarah Bickerton:

 

 

Mae syniad Sarah ar gyfer ei chynhyrchiad hi yn seiliedig ar ei phrofiadau hi o fod yn fam newydd.

“Dwi’n datblygu syniad am sioe ‘immersive’ i babis a phlant bach 0-3 oed am ddechrau bywyd, sy’n archwilio y rhyfeddod, sialensau a’r llawenydd o fod yn riant/gofalwr newydd. Ar ddechre’r siwrne yma o greu, dwi wrthi’n casglu ysbrydoliaeth o’r ‘rollercoaster’ o fy mhrofiadau fel Mam newydd ac o’r amrywiaeth anhygoel o drawsnewid, gofal a chydweithio sydd i’w ffeindio ym myd natur.”

 

 

X