august, 2024

20aug(aug 20)9:30 am21(aug 21)4:30 pmFeaturedCwrs Theatr Technegol 2 DdiwrnodCWRS THEATR TECHNEGOL AM DDIM YN ARAD GOCH I BOBL O OEDRANNAU 14-25!

more

Event Details

Ar yr 20fed a 21ain o Awst bydd Cwrs Theatr Technegol yn cael ei redeg yng Nghanolfan Arad Goch yn Stryd Y Baddon, Aberystwyth, lle bydd cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan yn cael dysgu am y byd theatr sy’n bodoli oddi ar y llwyfan!

Ar ddiwrnod cyntaf y cwrs bydd gweithdai ar SAIN, GOLEUO a RHEOLI LLWYFAN yn cael eu rhedeg gan arbenigwyr proffesiynol sydd gyda blynyddoedd o brofiad yn y maes. Ar yr ail ddiwrnod caiff y rheini sy’n cymryd rhan gyfle i arbrofi eu sgiliau gyda diwrnod cyfan o waith ymarferol, ble byddant yn adeiladu set eu hunain ac yn defnyddio ein hoffer a phropiau o’n storfa yng Nglan yr Afon.

Byddant hefyd yn cael blas ar elfennau eraill megis gosod ciwiau er mwyn goleuo, a rheoli a darparu sŵn a cherddoriaeth ar gyfer y gwaith.  Drwy wneud hyn cewch wir flas ar fod yn dechnegydd neu rheolwr llwyfan!

Felly os ‘da chi ffansi eistedd yn y tech box yn goleuo’r llwyfan, darparu sain a cherddoriaeth ac effeithiau sain ar gyfer sioe, neu reoli llwyfan pam na wnewch chi ymuno â ni?  Efallai mai chi fydd technegwyr y dyfodol!

Mae’r cwrs yma yn cael ei ariannu gan arian grant Prosiect ARFOR.  Prif ffocws y prosiect hwn yw i ddelio gyda problem sydd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sef diffyg cyfleoedd technegol i bobl ifanc, a’r prinder dybryd o dechnegwyr Cymraeg eu hiaith sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, yn enwedig yng Ngheredigion.  Hyd yn oed gyda chyrsiau drama mewn ysgolion does gan y rhan fwyaf o athrawon ddim profiad na gwybodaeth ymarferol o’r gwaith technegol arbenigol i’w drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.

Ebostiwch post@aradgoch.org neu galwch 01970 617 998 i archebu lle!

Time

20 (Tuesday) 9:30 am - 21 (Wednesday) 4:30 pm

Location

Canolfan Arad Goch

Bath St, Aberystwyth, SY23 2NN

X