january, 2020

30jan7:30 pmThe Story & HelaDau Gynhyrchiad cefn-wrth-gefn - Rhan o Gyfres Trais The Other Room

more

Event Details

The Story gan Tess Berry-Heart

Hela gan Mari Izzard

Un tocyn, dau gynhyrchiad! Rhan o dymor trais The Other Room.

Mae The Story, sy’n nodi ymddangosiad cyntaf Tess Berry-Hart yng Nghymru, yn archwiliad anesmwyth o gondemniad moesol a chyfrifoldeb personol sy’n cadw’r gynulleidfa ar flaenau eu seddi hyd y diwedd un.

Wedi’i hysbrydoli gan waith Tess gyda ffoaduriaid o garchardai Assad a charchardai Libya, mae’n dilyn stori gwirfoddolwr sy’n cyrraedd yn ôl o weithio mewn gwersyll i ffoaduriaid i ddarganfod ei bod bellach yn “elyn y bobl”. Mae The Story yn cwestiynu iaith ‘aralloli’ a’r straeon rydym yn eu hadrodd wrthym ein hunain i gyfiawnhau trais.

Dilynir The Story gan Hela, hanes cythryblus am gyfrinachau tywyll teuluol ac ymdrech ddiflino am gyfiawnder, a ysgrifennwyd gan Mari Izzard, enillydd Gwobr Violet Burns i Ddramodwyr; mae’r testun yn cynnwys testun Cymraeg a Saesneg, a’r cyfan wedi’i blethu ynghyd dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr Artistig The Other Room, Dan Jones.

Oedran argymhellir: 16+

Pris tocyn ar gyfer The Story & Hela: £18 / £15 Consesiwn.

Neu, os ydych chi am weld y gyfres i gyd (Sef, American Nightmare, The Story + Hela) Pris arbennig: £25 / £8 Consesiwn

TOCYNNAU AR GAEL WRTH FFONIO NEU EBOSTIO ARAD GOCH YN UNIG – 01970617998 / post@aradgoch.org.

Am fwy o wybodaeth am y Tymor Trais a chwmni The Other Room, CLICIWCH.

 

Cast

The Story

X – Siwan Morris

V – Hannah McPake

The Storyteller – Luciana Trapman

Hela

Erin – Lowri Izzard

Hugh – Gwydion Rhys

Y System – Rhian Blythe

Time

(Thursday) 7:30 pm

Location

Canolfan Arad Goch

Bath St, Aberystwyth, SY23 2NN

X