Mae cynhyrchiad Yma a Nawr yn gynhyrchiad sydd wedi comisiynu gan Gyngor Sir Ceredigion, ynghyd ag Odd Arts Manchester, https://oddarts.co.uk/ i gyflwyno Yma a Nawr neu Here and Now yn Saesneg i ysgolion uwchradd yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Mae Yma a Nawr yn brofiad theatr rhyngweithiol, pwerus sy’n archwilio eithafiaeth gasinebus a radicaleiddio.
Mae’n berfformiad cryf sy’n datgelu materion cymhleth mewn cymdeithas sy’n gysylltiedig â’r dde eithafol ac eithafiaeth ryngwladol neu eithafiaeth ffydd. Yna mae cyfranogwyr yn defnyddio’r ddrama i archwilio atebion ac ymyrraeth gynnar i atal casineb a niwed rhag cynyddu. Y bwriad yw defnyddio’r perfformiad o fewn ysgolion i newid agweddau ac ymddygiad a lleihau’r risg o radicaleiddio.
Mae’n ddarn o Theatr Fforwm – mae theatr fforwm yn fath o ddrama ryngweithiol lle cyflwynir golygfa, ac o dan arweiniad hwylusydd profiadol, gall y gynulleidfa dorri ar draws y perfformiad i awgrymu a rhoi cynnig ar atebion amgen i’r materion a godwyd yn yr olygfa. Gall aelodau’r gynulleidfa gamu i mewn i gymryd lle cymeriad, neu awgrymu bod yr actorion yn gwneud pethau’n wahanol, ac mae’r olygfa’n cael ei hailchwarae gyda’r weithred newydd. Mae hyn yn helpu’r disgyblion i ddeall y pwnc yn well – a sylweddoli goblygiadau a chanlyniadau rhyngweithiadau syml.

