Mae hi wedi bod yn wythnos hynod gyffrous a llwyddiannus i Arad Goch yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, gyda chyfleoedd i gwrdd â’r cyhoedd, rhannu ein gwaith a chreu profiadau theatrig a chreadigol i gynulleidfaoedd o bob oed.
📆Dydd Llun – Arad Goch ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol
Dechreuodd yr wythnos yn wych gyda diwrnod prysur a bywiog ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel rhan o’r sesiwn “Tu Ôl i’r Llen – Holi a Sgwrsio – Arad Goch”.
Roedd yn gyfle gwych i aelodau o dîm Arad Goch gwrdd â phobl o bob math – teuluoedd, athrawon, artistiaid, gweithwyr theatr a phobl oedd yn syml eisiau dod draw i ddweud helo a darganfod mwy am ein gwaith.
Cafwyd sgyrsiau am yr hyn sydd ar y gweill yn Arad Goch dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys cynyrchiadau theatr, prosiectau creadigol, clybiau drama, gweithdai, gwyliau a chyfleoedd i gymryd rhan. Roedd hefyd yn gyfle i drafod syniadau ar gyfer cydweithio a sut y gall pobl ymwneud â gwaith Arad Goch yn y dyfodol.
Ac wrth gwrs, nid yr oedolion yn unig gafodd hwyl – roedd gweithgareddau creadigol ar gael i’r plant hefyd!



📆Dydd Mercher – Natur yn denu torf

Ddydd Mercher, trodd y sylw at Natur, cynhyrchiad theatrig Arad Goch, a chafwyd ymateb anhygoel gan gynulleidfaoedd.
Roedd y perfformiad yn orlawn, gyda thorf enfawr yn ymuno â ni i brofi’r sioe. Roedd gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i fwynhau theatr Gymraeg ar y maes yn foment arbennig iawn i’r cwmni.
Mae llwyddiant Natur yn dangos unwaith eto’r awydd am theatr gyffrous, berthnasol a hygyrch i blant a theuluoedd.

📆Dydd Gwener – Beca’n Galw! yn dod â’r wythnos i ben
Ac yna daeth uchafbwynt yr wythnos gyda Beca’n Galw!.
Ar ddydd Gwener, daeth dros 2,000 o bobl at ei gilydd i wylio pinacl y prosiect ! Sioe stryd fywiog a grëwyd yn benodol ar gyfer yr Eisteddfod.
Roedd y digwyddiad yn benllanw ar brosiect a ddaeth â dros 50 o bobl leol ynghyd i gymryd rhan a chyd-greu gyda pherfformwyr proffesiynol. Roedd y cyfuniad hwn o dalent broffesiynol a lleisiau lleol yn rhoi egni arbennig i’r cynhyrchiad, gan ddod â stori Merched Beca yn fyw yng nghanol y maes.
Roedd gweld miloedd o bobl yn ymgasglu i brofi’r gwaith yn foment anhygoel, ac yn dyst i bŵer theatr i ddod â chymunedau at ei gilydd, i adrodd straeon ac i roi llais i bobl.

Diolch!❤️
Ar ddiwedd wythnos mor brysur, hoffem ddiolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o lwyddiant Arad Goch yn yr Eisteddfod – y gynulleidfa, y cyfranogwyr lleol, yr artistiaid, ein partneriaid, y tîm trefnu a phawb a ddaeth i siarad â ni, cymryd rhan neu gefnogi ein gwaith.
O sgyrsiau a syniadau newydd ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol, i theatr i blant a theuluoedd, ac yna filoedd o bobl yn ymgasglu ar gyfer Beca’n Galw!, mae wedi bod yn wythnos sy’n dangos yn glir pa mor bwysig yw theatr, creadigrwydd a’r Gymraeg i’n cymunedau.
Diolch am wneud Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn wythnos i’w chofio – ac edrychwn ymlaen at yr hyn sydd i ddod!❤️

