Mae Arad Goch yn Paratoi ar gyfer Wythnos Gyffrous yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las
Mae’r aros i bron ar ben! Yr wythnos nesaf bydd tîm Arad Goch yn ymuno â miloedd o ymwelwyr yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, gyda rhaglen lawn o berfformiadau, gweithgareddau a chyfleoedd i gwrdd â’r tîm.
Yn ystod yr wythnos, bydd Arad Goch yn cyflwyno dau gynhyrchiad arbennig – Natur, drama gerddorol sy’n archwilio ein perthynas â’r byd naturiol, a Beca’n Galw!, cynhyrchiad theatr stryd bywiog newydd sy’n cael ei ysbrydoli gan hanes Merched Beca ac yn gwahodd cynulleidfaoedd i ymuno yn y daith.
Yn ogystal â’r perfformiadau, bydd aelodau o’r tîm ar gael drwy’r wythnos i sgwrsio am waith Arad Goch, prosiectau’r dyfodol a’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc, teuluoedd ac artistiaid gymryd rhan yn ein gwaith. Bydd gweithgareddau creadigol a digwyddiadau ychwanegol hefyd yn cael eu cynnal – Dydd Llun byddwn ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru 13:30 – 15:00 gyda sesiwn Tu Ôl i’r Llen – Holi a Sgwrsio – Arad Goch
“Mae’r Eisteddfod yn uchafbwynt yn ein calendr bob blwyddyn, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rannu ein gwaith, cwrdd â hen ffrindiau a gwneud cysylltiadau newydd. Mae croeso cynnes i bawb ddod draw i ddweud helo.”
Bydd Arad Goch yn rhannu’r holl newyddion, lluniau ac uchafbwyntiau o’r maes ar draws ei sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos.
Ac os ydych wedi bod yn ystyried cymryd rhan yn Beca’n Galw!, mae dal cyfle i ymuno â’r prosiect a bod yn rhan o’r cynhyrchiad cyffrous hwn.
Os ydych yn ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, dewch draw i gwrdd â thîm Arad Goch – edrychwn ymlaen at eich gweld!
Amserlen Gweithgaredd :
03/08/26 – 13:30 – 15:00
Llyfyrgell Genedlaethol Cymru
Tu Ôl i’r Llen – Holi a Sgwrsio – Arad Goch
05/08/26 -17:00
Y Sfferen
Natur – Performance
07/08/26 – 17:15
Cylch yr Orsedd
Beca’n Galw

