Ydych chi yn gwmni, yn gynhyrchydd, yn artist neu’n perfformiwr unigol sydd â sioe i blant a phobl ifanc?

Ydych chi am berfformio yn yr unig ŵyl ryngwladol ar gyfer celfyddydau perfformio i gynulleidfaoedd ifanc yng Nghymru?

Ydych chi am berfformio ochr yn ochr â rhai o’r cynyrchiadau Cymreig a rhyngwladol gorau sydd i’w gael?

Dyma’r galwad i chi.

Mae Gŵyl Agor Drysau-Opening Doors, a drefnir gan Gwmni Theatr Arad Goch yn digwydd unwaith eto o’r 8fed i’r 12fed o Fawrth 2027 gyda pherfformiadau, gweithdai a thrafodaethau i gynulleidfaoedd, gwneuthurwyr theatr, rhaglenwyr rhyngwladol a chyfarwyddwyr gwyliau. Canolbwynt yr ŵyl fydd Aberystwyth gyda rhai cynyrchiadau yn ymweld â theatrau eraill trwy Gymru megis Theatr Felinfach a Theatr Taliesin.

Rydym wrthi yn rhaglennu’r ŵyl a hoffem glywed gan gwmnïau a pherfformwyr proffesiynol, yng Nghymru a thramor, am eu gwaith. Os hoffech gyflwyno cynnig ar gyfer perfformio yn yr ŵyl gallwch lenwi’r ffurflen isod , ynghyd â recordiad llawn o’r gwaith i post@aradgoch.org.

Rydyn ni am ddod â’r perfformiadau gorau i’r ŵyl beth bynnag yw’r pwnc a’r arddull – drama, pyped a theatr gwrthrychau, cerddoriaeth, barddoniaeth neu ddawns. Yn ogystal mae gennym ddiddordeb mewn gwaith o ddiwylliannau ac ieithoedd lleiafrifol, gwaith ar gyfer neu gan grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli gan gynnwys LHDTQ, lleiafrifoedd ethnig a phobl o wahanol alluoedd.

Mae gwybodaeth am yr ŵyl flaenorol i’w gweld o hyd ar www.agordrysau.cymru

Gobeithio’ch gweld yn Aberystwyth mis Mawrth nesaf!

DYDDIADAU ALLWEDDOL

  • Dyddiad Cau: 1af o Fedi 2026
  • Clywed nôl: Diwedd Medi 2026
  • Dyddiadau’r ŵyl: 8fed – 12fed o Fawrth 2027
X