Dewch gyda ni ar orymdaith, ymunwch yn y cyffro fydd ar y maes! Ma’ Beca’n Galw! 

Mae’r cynhyrchiad theatr stryd newydd hwn gan Arad Goch yn ail-ddychmygu hanes a chwedloniaeth Merched Beca mewn ffordd fywiog a phwerus. Wedi’i ysbrydoli gan Ferched Beca, bydd y perfformiad yn archwilio themâu cyfiawnder, gwrthryfel a llais y gymuned.

Wedi’i greu’n benodol ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las, bydd y cynhyrchiad yn dod â theatr yn fyw i’r maes, gan wahodd cynulleidfaoedd i brofi’r stori’n agos ac yn uniongyrchol. Trwy symudiad corfforol, cerddoriaeth a delweddau gweledol trawiadol, bydd ‘Beca’n Galw’ yn ailgynnau ysbryd protest mewn ffordd berthnasol i Gymru heddiw.

Nodwedd allweddol y prosiect yw’r cydweithio rhwng perfformwyr proffesiynol ac artistiaid lleol, gan greu profiad theatraidd sy’n adlewyrchu lleisiau a straeon y gymuned gyfan. 

Ymlaen ferched Beca!

X