Cynhyrchiad Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch,
gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr

Gan Mererid Hopwood
Cerddoriaeth gan Seiriol Davies 

Mae pawb yn gyffro i gyd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn Ysgol Gwaelod y Garn. Ond mae’r plant ar fin cael newyddion drwg… mae’r ysgol yn mynd i GAU! 

Wrth i Alfred, Elen a’u ffrindiau geisio meddwl am ffordd o achub eu hysgol fach, mae athrawes newydd a braidd yn llym yr olwg yn cyrraedd: Miss Prydderch. Ond cyn hir, daw hi’n amlwg ei bod hi’n athrawes anghyffredin o arbennig. Os gall unrhyw un helpu’r plant i achub yr ysgol, Miss Prydderch yw’r un!  

Mewn sioe sy’n llawn dop o ddireidi, dychymyg a cherddoriaeth, cewch deithio gyda dosbarth Miss Prydderch ar antur fythgofiadwy lle mae’r ffrindiau’n trechu eu hofnau a darganfod pwysigrwydd codi eu lleisiau.  

Dyma sioe gerdd hudolus newydd sy’n dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript newydd sbon gan Mererid Hopwood, a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies. 

Whwsh! Bant â ni! 

Oedran : 7-11 a teuluoedd

🗓️06.06.26 – 04.07.26

• Theatr y Lyric, Caerfyrddin
• Theatr y Sherman, Caerdydd
• Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron
• Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
• Neuadd Dwyfor, Pwllheli
• Galeri, Caernarfon
• Theatr y Pafiliwn, Rhyl
• Pontio, Bangor

🎫Mae tocynnau ar werth nawr yn y rhan fwyaf o’r canolfannauu felly ewch i wefan eich canolfan lleol i ddechrau eich antur gyda ni!

X