Bydd cynhyrchiad newydd Cymraeg gan Arad Goch yn teithio theatrau Cymru Haf 2025:
SGLEINIO’R LLEUAD
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn adnabyddus am ei ddramâu i blant, ac mae’r cynhyrchiad yma o Sgleinio’r Lleuad yn her hollol newydd. Mae Sgleinio’r Lleuad yn addasiad theatraidd o’r llyfr o’r un enw gan yr awdures adnabyddus Caryl Lewis. Yn ogystal ag ysgrifennu’r llyfr, Caryl Lewis sydd wedi ei addasu i fod yn sgript hudolus, yn barod i Arad Goch ei roi ar y llwyfan.
Ymunwch â Byrti a Bwbw wrth iddyn nhw sgleinio’r lleuad! Ond pam mae Pwnîc yn dweud wrth y ddau am beidio gwneud hynny? O diar, bydd y byd i gyd yn dywyll! Yna, mae rhywbeth hudolus iawn yn digwydd….
Yn addas i blant 3-7 oed a’u teuluoedd
Amser Rhedeg: 55 munud
Cyfarwyddyd gan Ffion Wyn Bowen
Ar daith Mai-Gorffennaf 2025!
Yn addas i blant 3-7 oed a’u teuluoedd
Y Daith
Theatr Felinfach – 20/05
Mwldan – 22/05
Pontio Bangor – 02/06, 03/06
Galeri (Caernarfon) – 04/06, 05/06
Sherman Theatre – 06/06, 07/06
Pavilion Theatre Rhyl – 10/06
Stiwt – 12/06
The Lyric – 16/06, 17/06
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre – 18/06
The RiverFront – 19/06
Canolfan Garth Olwg Centre – 20/06
Taliesin Arts Centre – 23/06
The Hafren Theatre Newtown – 24/06
Neuadd Dwyfor – 26/06, 27/06
Borough Theatre-Abergavenny – 30/06
Y Muni Pontypridd – 02/07
Memo Arts Centre, Barry – 03/07
Tocynnau yn mynd ar werth ar wefannau y theatrau Dydd Llun Ionawr 20fed
Delwedd gan/Image by Valeriane Leblond