Crëwyd ‘Colli Hi’ (’Meltdown’ yn Saesneg), yn wreiddiol gan Zeal Theatre o Awstralia. Mae Zeal Theatre yn adnabyddus yng Nghymru am eu gwaith eiconig “Stones/Tafliad Carreg”, sydd wedi teithio sawl gwaith ac wedi bod yn rhan o gwricwlwm Drama CBAC. Crëwyd hwn hefyd mewn cydweithrediad â Chwmni Theatr Arad Goch.
Mae ‘Colli Hi’ yn archwilio themâu amserol ac emosiynol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, gan gynnwys ofn, iselder, gorbryder, straen, a dicter. Mae Dwayne, bachgen 15 oed, yn ceisio byw o fewn teulu ‘normal’ sy’n cael ei lywio gan broblemau iechyd meddwl. Mae ei chwaer hŷn wedi’i pharlysu gan ofn, mae ei fam o dan straen difrifol, ei chwaer fach yn gaeth i’r cyfryngau cymdeithasol, ei frawd bach yn crio’n barhaus, a’i dad folcanig ar fin ffrwydro. Mae’r cynhyrchiad yn dilyn cyfnod ym mywyd Dwayne, wrth iddo straffaglu trwy ei fywyd fel arddegwr gyda heriau teuluol yn dod o bob cyfeiriad.
Perfformiwyd ‘Meltdown’ yn wreiddiol yn ystod Gŵyl Agor Drysau 2024 – gŵyl ryngwladol Cwmni Theatr Arad Goch ar gyfer plant a phobl ifanc. Fe wnaeth y ddrama gymaint o argraff ar y cwmni nes penderfynwyd cydweithio eto gyda Stefo Nansou o Zeal Theatre, awdur/actor, sydd wedi dod draw o Awstralia i Aberystwyth i gyfarwyddo’r ddrama yng Nghanolfan Arad Goch.
Bydd y ddrama ar gael mewn fersiynau Cymraeg neu Saesneg, gyda’r fersiwn Gymraeg wedi’i chyfieithu gan yr actorion Llŷr Edwards ac Iwan Charles.
Gyda pherfformiadau deinamig aml-gymeriad, ac yn cyfuno cerddoriaeth, drama, a chomedi, mae “Colli Hi” yn stori sy’n tanio trafodaeth, ac yn arbennig o berthnasol i bobl ifanc yn eu harddegau.