Dros y tair wythnos diwethaf, mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi bod yn falch o groesawu tri artist llawrydd i gymryd rhan yn ein cynllun datblygu artistiaid AGoriad. Mae’r cynllun yn cynnig lle a chefnogaeth i artistiaid ddatblygu syniadau newydd ar gyfer theatr i bobl ifanc, mewn awyrgylch agored a chreadigol.
Y tro hwn, Emma Mace, Rebecca Wilson ac Elin Steele sydd wedi bod yn cydweithio ar brosiect ymchwil a datblygu sy’n seiliedig ar fywyd a gwaith Myra Evans – athrawes, awdures a gasglodd straeon gwerin o Geredigion. Cafodd Myra ei geni yng Ngheinewydd yn 1883, a threuliodd ran helaeth o’i bywyd yn croniclo traddodiadau llafar, chwedlau lleol, ac atgofion cymunedol yr ardal.
Yn ystod y prosiect, mae’r tri artist wedi treulio amser yng Nghanolfan Arad Goch ac wedi bod yn ymweld â’r tirweddau roedd Myra yn eu hadnabod. Maen nhw hefyd wedi cael cyfle i siarad â Peter Stevenson – storïwr, darlunydd a llenor lleol sy’n arbenigo mewn straeon gwerin – er mwyn cael mewnwelediad dyfnach i fywyd a gwaith Myra.
Dywedodd Emma Mace:
“Dros y pythefnos diwethaf, rwyf wedi cael y pleser o weithio ochr yn ochr â Becca Wilson ac Elin Steele i archwilio bywyd ac etifeddiaeth Myra Evans, folklorist cafodd ei eni yng Ngheinewydd yn 1883. Gyda mewnwelediad amhrisiadwy Peter Stevenson – folklorist, storïwr ac arlunydd – fe wnaethom blymio i fyd cyfoethog chwedlau gwerin sy’n gwreiddio yng Ngheredigion ac yn ysbryd gwaith Myra.
Roedd AGoriad, gyda’i bwyslais ar y broses yn hytrach na’r cynnyrch, yn cynnig lle hael ac anarferol ar gyfer archwilio. Heb y pwysau o orfod cyrraedd canlyniad penodol, roeddwn yn rhydd i arbrofi a gadael i’r syniad ddatblygu mewn ffyrdd na fyddwn wedi’u rhagweld. Roedd bod mewn sefyllfa i wahodd dau greadur Cymreig arall i’r ystafell yn fraint, ac fe galluogodd ni i fynd yn ddyfnach, herio rhagdybiaethau ac agor posibiliadau creadigol newydd.”
Dywedodd Elin Steele:
“Mae wedi bod yn bleser i gydweithio fel rhan o Agoriad dros y pythefnos diwethaf. Roedd o’n gyfle cyffrous i ddatblygu darn o waith sy’n berthnasol i ni fel tair, gyda stori wedi’i wreiddio yn yr ardal leol – i gael y rhyddid i greu ac esblygu syniadau mewn gofod agored a chefnogol.”
Dywedodd Rebecca Wilson:
“Mae’r cyfle ‘Agoriad’ wedi bod gymaint o hwyl a fi wedi dysgu gymaint fel artist theatr am gydweithio. … Mae straeon gwerin Myra o Geredigion felly mae o wedi bod yn osodiad perffaith weithio yn Aberystwyth yn adeilad Arad Goch. Roedd o’n hudol iawn mynd i weld Cae Newydd, lle gafodd Myra ei magu, a hefyd i siarad hefo Peter Stevenson i ddysgu mwy am fywyd hi.”
Rydym ni’n edrych ymlaen at weld sut fydd y gwaith hwn yn datblygu ymhellach!